Archebwch Eich Tocynnau
Cynghorir cadw lle ymlaen llaw ar gyfer eich taith a chaniatáu o leiaf 90 munud ar gyfer eich taith lawn a’ch profiad yn yr arddangosfa.
Amserau Agor
Mae’r Royal Mint Experience ar agor i ymwelwyr 7 niwrnod yr wythnos drwy’r flwyddyn. Fodd bynnag, holwch ymlaen llaw am newidiadau tymhorol.
Sut i Ddod o Hyd i Ni
Mae The Royal Mint Experience mewn man cyfleus 4 milltir o Gyffordd 34 yr M4, i gyfeiriad y gogledd-orllewin o Gaerdydd.
The Royal Mint Experience yn Ne Cymru yw’r unig le yn y byd y gallwch weld darnau arian y Deyrnas Unedig yn cael eu gwneud. Ewch y tu ôl i’r llenni i ddilyn taith darn arian o ddarn gwag i’r banc yn ein Profiad Ffatri Dan Arweiniad 45 munud o hyd a ddilynir gan ein harddangosfa ryngweithiol hunan-dywys. Profwch olygfeydd, seiniau ac arogleuon y miloedd o ddarnau arian sgleiniog newydd yn syth ar ôl iddynt gael eu creu. Fe gewch chi gyfle i fathu’ch darn arian eich hun hyd yn oed!
Beth Sydd Yma
Taro'ch Darn Arian Eich Hun
Ymweliadau gan Grwpiau
Ymweliadau gan Ysgolion
Mae The Royal Mint Experience ar agor i ymwelwyr 7 niwrnod yr wythnos drwy’r flwyddyn.
Read moreGallwch fwynhau te prynhawn moethus mewn sefydliad Prydeinig gwych arall, trwy gael Te Prynhawn yn y Royal Mint Experience.
Read moreO gael parti pen-blwydd yn y Royal Mint Experience, byddwch yn archwilio straeon rhyfeddol y bobl a’r digwyddiadau y tu cefn i ddarnau arian y Deyrnas Unedig.
Read moreOs ydych chi’n chwilio am le trawiadol i gynnal eich digwyddiad yn Ne Cymru, peidiwch ag edrych ymhellach na’r Royal Mint Experience. Dyma leoliad unigryw a hawdd ei addasu sy’n cynnig profiad i’w gofio i bob ymwelydd gydag amrywiaeth o ardaloedd i’w llogi.
Read more